'Lleoedd o addoliad a mannau cysegredig yn hwb i'r economi'

Capel Y Tabernacl, Trefous
Image caption Mi gafodd y dôn Blaenwern ei chyfansoddi yng Nghapel Y Tabernacl, Treforus

Mi allai hybu lleoedd o addoliad a mannau cysegredig roi hwb i economi Cymru, yn ôl un Aelod Cynulliad Llafur.

Dywedodd Mike Hedges fod gan Gymru etifeddiaeth grefyddol "gyfoethog a dylanwadol".

Er bod Cymru yn cael ei hadnabod fel "gwlad y cestyll", mae ganddi fwy o gapeli, eglwysi ac adeiladau crefyddol, ychwanegodd AC Abertawe.

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd y cynllun gweithredu twristiaeth ffydd yn "hybu rhan arwyddocaol o'n hetifeddiaeth" i ymwelwyr a phobl leol.

"Mae'n rhyfeddol," medd Mr Hedges, sy'n gapelwr cyson,"faint o bobl sy'n cysylltu hen gapel Ebenezer yn Abertawe â phregethu un o bregethwyr mwyaf Cymru Christmas Evans."

Bu ef farw tra ar daith yn Abertawe yn 1838.

Nododd hefyd gapel y Tabernacl yn Nhreforus fel enghraifft arall.

Yr organydd yn y capel hwnnw Penfro Rowlands a gyfansoddodd yr emyn dôn Blaenwern - tôn boblogaidd iawn. Yn achlysurol cenir y geiriau 'Calon lân' ar y dôn.

"Petai marchnad dwristaidd America yn ymwybodol o'r cysylltiadau hyn a mannau crefyddol eraill, rwy'n siwr y byddai nifer yn dymuno ymweld ac o ganlyniad mi fyddent yn gwario eu harian mewn busnesau lleol," ychwanegodd Mr Hedges.

"Mae ein pregethwyr mawr, ein hemynwyr, ein capeli a'n heglwysi yn gyfle gwych i hybu twristiaeth. Rhaid i ni fod yn barod i fentro ar y cyfle"

Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Yn y gorffennol mae Ken Skates (canol) wedi bod yn awyddus i adfer hen eglwysi

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: "Wrth i dros 600,000 o bobl ymweld â safleoedd o arwyddocâd crefyddol yng Nghymru bob blwyddyn ac wrth i'r nifer hwnnw godi mae Cymru yn falch o'i hetifeddiaeth eglwysig.

"O Abaty Tintern i 'Majestas' Epstein yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, mae ein hamgylchedd hanesyddol yn ein hatgoffa o hyd am ddatblygiad diwylliant Cymru ar hyd y canrifoedd.

"Mae ein llefydd o addoliad yn adrodd pob math o straeon wrthym am y wlad, ei phobl a'i hanes crefyddol amrywiol a hudol.

"Ac wrth gwrs mae safleoedd crefyddol Cymru yn cynrychioli'r ysbrydol a sancteiddrwydd i nifer."

Dywedodd Mr Hedges hefyd y gallai nifer o safleoedd a sefydliadau crefyddol elwa'n ariannol wrth i bobl ymweld â nhw a hynny wrth i nifer ohonynt ei chael hi'n anodd yn ariannol.