Cannoedd yn nofio yn y môr yn Sir Benfro

Dinbych-y-Pysgod
Image caption Rhaid i bobl 'drochi'u hunain yn llwyr' yn y môr

Fe aeth cannoedd o bobl i'r dŵr er mwyn bod yn rhan o Nofio Môr Dinbych-y-Pysgod yn Sir Benfro ddydd Llun.

Mae'r digwyddiad wedi cael ei gynnal ar Ŵyl San Steffan am 46 o flynyddoedd, ac mae'n cael ei drefnu gan Gymdeithas Nofio Môr Dinbych-y-Pysgod.

Mae'r digwyddiad wedi codi mwy na £250,000 i elusennau.

Thema'r digwyddiad eleni oedd Miwsig y Môr.

Image caption Daeth cannoedd o nofwyr i Ddinbych-y-Pysgod

Dywedodd cadeirydd y Gymdeithas, Chris Osborne, wrth y BBC bod y digwyddiad yn "ffordd wych o ddod dros y goorwneud ar ddydd Nadolig".

"Cyn gynted ag yr y'ch chi'n dod allan o'r môr, ry'ch chi'n teimlo'n effro ac yn barod am unrhyw beth," meddai.

Pwysleisiodd Mr Osborne nad oedd rhaid i bobl nofio, dim ond "trochi'u hunain yn llwyr".

"Y theori yw rhedeg tuag at y môr, ac os oes 600-700 yn rhedeg gyda chi does dim llawer o ddewis ganddoch chi!"