Brentford 2-2 Caerdydd

Neil Warnock Image copyright Getty Images

Brentford 2-2 Caerdydd

Daeth cyfle am ail ddathliad mewn dau ddiwrnod i glwb pêl-droed Caerdydd a'u cefnogwyr wedi deithio i Brentford yn y Bencampwriaeth.

Wedi canlyniadau cymysg dros y gemau diwethaf fe allai tîm Neil Warnock fod wedi disgyn i'r tri isaf ddydd Sadwrn pe baen nhw wedi colli.

Ond daeth cyfle gwych i fynd ar y blaen pan gafodd Sean Morrison ei dynnu nôl yn y cwrt cosbi, ac fe gamodd Peter Whittingham ymlaen i rwydo o'r smotyn wedi 24 munud.

Wedi hanner cyntaf digon cyffredin, fe gadwodd yr Adar Gleision y fantais tan yr egwyl, ac er i'r ddau dîm gael mwy o gyfleoedd yn yr ail gyfnod fe arhosodd hi felly tan saith munud cyn y diwedd.

Dyna pryd y tarodd y tîm cartre'n ôl gydag ergyd ardderchog Sullay Kaikai i gornel ucha'r rhwyd i'w gwneud hi'n gyfartal.

Y tîm cartre' oedd fwya tebygol o ennill y gêm gyda chyfres o giciau cornel a phwysau parhaus ar gôl Caerdydd, ond yr ymwelwyr gafodd y gôl.

Ychydig dros funud oedd yn weddill o'r 90 pan ddaeth Joe Ralls o hyd i Kenneth Zohore, ac fe sgoriodd yr ymosodwr ei gôl gyntaf ers symud i Gaerdydd yn barhaol.

Roedd hi'n ymddangos bod triphwynt ar ei ffordd yn ôl i Gaerdydd, ond roedd digon o amser wedi'i ychwanegu am anafiadau i Brentford ddod yn ôl.

Sullay Kaikai gafodd ei ail yn y gêm i sicrhau'r gêm gyfartal, a hynny'n golygu bod Caerdydd ond wedi ennill un o'u chwe gêm ddiwethaf yn y Bencampwriaeth.