Gleision 27 - 16 Dreigiau

cais shingler Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Steve Shingler groesodd am gais cynnar

Gleision 27 - 16 Dreigiau

Mae'r Gleision wedi cau'r bwlch rhyngddyn nhw a Glasgow yn chweched safle tabl y Pro 12 gyda buddugoliaeth yn y gêm ddarbi yn erbyn Y Dreigiau.

Y tîm cartref gafodd y rhan fwyaf o'r meddiant o dipyn yn yr hanner cyntaf ar Barc yr Arfau, ond fe arhosodd yr ymwelwyr o fewn cyrraedd gyda chicio cywir.

Roedd Steve Shingler wedi sgorio cais cynnar iawn ac fe gafodd Kristian Dacey un arall.

Ond daeth tair cic gosb a throsiad gan O'Brien wedi cais Ashton Hewitt i'r Dreigiau.

Roedd angen trydydd cais i'r Gleision gan Josh Navidi eiliadau cyn yr egwyl i sicrhau bod mantais y Gleision mor sylweddol ag oedd eu chwarae'n ei haeddu.

Wedi'r pwyntiau lu yn yr hanner cyntaf, syndod oedd gweld ail hanner ddi-sgor ar Barc yr Arfau.