Abertawe 1 - 4 West Ham

ayew Image copyright Reuters

Roedd Abertawe wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn Stadiwm Liberty, ac roedd hi'n hollbwysig cipio triphwynt arall os oedden nhw am gael gobaith o godi allan o'r tri safle isaf yn yr Uwchgynghrair.

Ond fe ddaeth perfformiad siomedig arall gan Yr Elyrch wrth iddyn nhw golli i'r Llundeinwyr.

Er iddo gael tymor da hyd yma, fe ddaeth y gôl gyntaf o gamgymeriad gan y golwr Lukasz Fabianski - methodd â delio gyda pheniad Andy Carroll, ac roedd cyn-flaenwr Abertawe, Andre Ayew, wrth law i sgorio'i gôl gyntaf i West Ham ers iddo symud yno o'r Liberty.

Doedd West Ham ddim yn chwarae'n dda, ond doedd dim angen iddyn nhw gan mor siomedig oedd Abertawe.

Yn fuan wedi'r egwyl daeth yr ail - croesiad gan Dimitri Payet a'r amddiffynwr Winston Reid oedd wrth law i benio i'r rhwyd.

Y tîm cartref gafodd mwyafrif y meddiant, ond roedd y diffyg creadigrwydd yn destun rhwystredigaeth i'r cefnogwyr.

Fe ddaeth trydedd gôl i'r ymwelwyr gan Michail Antonio wrth iddo wyro ergyd Nordtveit i'r rhwyd - roedd hi'n gôl erchyll yn amddiffynol i'r Elyrch.

Fe fyddai gôl Fernando Llorente wedi bod yn rhywfaint o gysur i'r Elyrch - fe sgoriodd i'w gwneud hi'n 1-3 wedi 89 munud - ond roedd amser am un arall i West Ham gydag Andy Carroll yn rhwydo.

Bu rhai o'r cefnogwyr yn galw ar y cyfarwyddwyr newydd o America i "adael y clwb", ac mae'n debyg bod swydd y rheolwr Bob Bradley dan mwy o fygythiad wedi canlyniad siomedig arall sy'n gadael Abertawe yn y tri gwaelod a phedwar pwynt y tu ôl i Crystal Palace yn y 17eg safle.