Casnewydd 2 - 3 Portsmouth

casnewydd

Casnewydd 2 - 3 Portsmouth

Ar ôl colli pedair gêm yn olynol yn Adran 2, roedd perfformiad dydd Llun yn galondid i gefnogwyr Casnewydd, ond er hynny roedd y canlyniad yn siomedig.

Roedd Casnewydd wedi mynd ar y blaen yn gynnar diolch i gôl Josh Sheehan o gic rydd.

O fewn chwe munud i ddechrau'r ail hanner, roedd Rhys Healey wedi dyblu'r fantais i Gasnewydd, ond dyna lle y dechreuodd pethau fynd o'i le.

O fewn pum munud roedd cyn chwaraewr Casnewydd, Danny Rose, wedi cael gôl yn ôl i Portsmouth, a'r ymwelwyr oedd yn pwyso.

Daeth cic o'r smotyn i Portsmouth wedi trosedd gan Jazzi Barnum-Bobb, ond roedd rhyddhad i Gasnewydd wrth i Kal Naismith daro'i ergyd o'r smotyn dros y trawst.

Ond roedd y pwysua'n parhau, ac wedi 80 munud fe wnaeth Naismith yn iawn am ei gamgymeriad drwy greu cyfle i Enda Stevens. Aeth ei ergyd yntau i do'r rhwyd i'w gwneud hi'n gyfartal.

Ac roedd amser am fwy o dorcalon wrth i Naismith daro ergyd gyda thri munud yn weddill - roedd peth ansicrwydd am y sgoriwr, gydag amheuaeth i'r ergyd wyro oddi ar amddiffynwr - ond fe fydd Naismith yn hawlio'r gôl sy'n sicrhau bod Casnewydd yn sownd i waelod y tabl ar ôl colli pump o'r bron.