Wrecsam 1 - 0 Southport

wrecsam

Wrecsam 1 - 0 Southport

Os oedd cefnogwyr Wrecsam yn gobeithio am lond trol o goliau i ddathlu'r Nadolig, fe gawson nhw'u siomi'n arw yn y Cae Ras brynhawn Llun.

Ond os oedden nhw wedi mentro allan yn y gobaith o gael buddugoliaeth gyntaf mis Rhagfyr - a'r gynta mewn pedair gêm - roedden nhw ar ben eu digon.

Doedd hi ddim y gêm orau a welwyd erioed, ond pan sgoriodd Kai Edwards wedi 88 munud, roedd yna ddigon o achos dathlu.

Mae'r triphwynt yn golygu bod Wrecsam yn y 15ed safle yn y Cynghrair Cenedlaethol.