Dyn o Fôn wedi ei gyhuddo o ymosodiad difrifol

Tyddyn Mostyn Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar stad Tyddyn Mostyn ym Mhorthaethwy

Mae dyn 44 oed o Ynys Môn wedi cael ei gyhuddo o ymosodiad difrifol ar ddyn arall ar ddiwrnod Nadolig.

Cafodd Geno Maher o Amlwch ei gyhuddo o niweidio David Doherty gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol iddo.

Fe ymddangosodd Mr Maher o flaen llys yn Llandudno ddydd Mawrth.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig mewn fflat ar stad Tyddyn Mostyn ym Mhorthaethwy.

Mae'n debyg bod Mr Doherty yn parhau i fod yr ysbyty yn derbyn triniaeth ar anaf i'w law.

Mae Geno Maher wedi ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ddiwedd Ionawr.