Gweilch 19-9 Scarlets

Scott Williams Image copyright Huw Evans picture agency

Y Gweilch oedd yn fuddugol yn nerbi rhanbarthau'r gorllewin, gan guro'r Scarlets yn Stadiwm Liberty.

Un cais oedd ynddi, a chais cosb oedd hwnnw, wrth i'r tîm cartref bwyso gyda chyfres o sgrymiau ger llinell gais y Scarlets yng nghanol yr ail hanner.

Yr ymwelwyr oedd â'r fantais ar yr hanner, gyda Rhys Patchell yn trosi tair cic gosb i roi mantais o 9-6 i'r gwŷr o Lanelli.

Ond wnaethon nhw ddim ychwanegu at y pwyntiau hynny, gyda'r cais a 14 pwynt o droed Dan Biggar yn mynd â hi i'r Gweilch.

Mae'r canlyniad eu gadael nhw yn ail yn y Pro 12, gyda'r Scarlets yn bumed.