Abertawe wedi diswyddo eu rheolwr Bob Bradley

Bob Bradley Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Abertawe wedi diswyddo eu rheolwr Bob Bradley yn dilyn rhediad gwael diweddar y clwb.

Ar hyn o bryd, mae'r Elyrch yn 19ed yn Uwch Gynghrair Lloegr yn dilyn y golled drom yn erbyn West Ham ar Ddydd San Steffan.

Cafodd Bradley ei benodi i olynu Francesco Guidolin ar y Liberty bron i dri mis yn ôl.

Ond fe gollodd y tîm saith o'r 11 gêm y chwaraeon nhw o dan ei arweinyddiaeth.

'Angen atebion'

Mewn datganiad ar wefan y clwb, dywedodd cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, bod y clwb "yn teimlo bod rhaid gwneud newid gyda hanner y tymor yn weddill".

Ychwanegodd: "Gyda'r clwb yn mynd trwy gyfnod mor anodd, mae'n rhaid i ni geisio dod o hyd i'r atebion i'n cael ni mas o drafferthion.

"Yn bersonol, does gen i ond canmoliaeth i Bob. Mae'n ddyn da; yn berson da roddodd bopeth i'r swydd. Mae'n gweithio'n rhyfeddol o galed, ac rydym yn dymuno'n dda iddo at y dyfodol."