Arfon Haines yn cofio Carrie Fisher: 'Roedd hi'n unigryw'

Carrie Fisher

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r actores Carrie Fisher, yn dilyn y newyddion am ei marwolaeth yn 60 oed.

Fe gafodd y seren o'r ffilm Star Wars ei tharo'n wael ar awyren o Lundain i Los Angeles noswyl Nadolig.

Un fu yn y coleg yn Llundain gyda Carrie Fisher oedd y cyflwynydd Arfon Haines Davies, a bu'n sôn am ei atgofion ohoni ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru: "Y'ng nghyfnod i yng ngholeg Central School oedd '74 i '75, ac er mai cwrs addysg o'n i'n neud yna yn y bon, ro'n i'n gweld Carrie Fisher o gwmpas y lle, ac roedd hi, rhaid i mi ddweud, yn berson unigryw.

"Roedd hi'n hollol wahanol, hyd yn oed mewn coleg drama, lle mae pobl yn tueddu i fod ychydig bach yn wahanol, ond roedd 'na rywbeth.. roedd hi'n Hollywood Royalty.

Image caption Roedd Arfon Haines Davies yn y coleg gyda Carrie Fisher yn 1974-75

"Roedd hi'n cadw'i hun iddi hi ei hun, ond roedd hi'n ferch hynod, hynod o brydferth, dwi'n cofio.

"Dim ond ychydig o weithiau nes i siarad efo hi, ond roedd hi'n berson roedd rhywun yn gallu dweud bod yna ddyfodol iddi.

"Roedd hi wedi ffilmio Shampoo, dwi'n meddwl, ond doedd hi ddim wedi dod allan. Ffilm Warren Beatty a Julie Christie.

"Dim ond am flwyddyn roedd hi yn Central, ac ar ôl hynny ddaeth Shampoo allan ac wedyn wrth gwrs, Stars Wars.

Image copyright Getty Images
Image caption Carrie Fisher gyda'i mham, Debbie Reynolds

"Be dwi'n gofio ydy - i gwpl ohonon ni - nid Carrie Fisher oedd hi, ond merch Debbie Reynolds, oherwydd, i mi yn bersonol, Singin' in The Rain 'di un o'n hoff ffilmiau i.

"Dwi'n cofio, ro'n i'n agos iawn unwaith i fynd ati - roedd ganddi grys chwys ffantastig efo 50 mlwyddiant stiwdios MGM - crys coch llachar - ac mi faswn i wedi bod wrth fy modd yn cael crys fel'na, ond doedd gen i ddim o'r hyder i fynd ati i ofyn a fasa hi'n gallu cael un fel 'na i mi.

"Pan ma rhywun yn meddwl am ei phriodas hi efo Paul Simon, a hyd yn oed... mae rhywun yn mynd yn ôl at Debbie Reynolds ac Eddie Fisher, dwi ddim yn gwybod pa mor hapus oedd ei bywyd hi. Diwrnod trist iawn."