Llywodraeth yn addo camau yn sgil newid cymdeithasau tai

adeiladwyr Image copyright Getty Images
Image caption Y pryder yw y gallai'r newid diweddar gyfyngu ar y gallu i adeiladu tai newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo y bydd yn cymryd "pa bynnag gamau sydd eu hangen" er mwyn gwyrdroi newidiadau allai gyfyngu ar allu cymdeithasau tai i adeiladu cartrefi fforddiadwy.

Ym mis Medi fe gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) y dylai cymdeithasau tai gael eu hystyried yn rhan o'r sector cyhoeddus yn hytrach na'r sector breifat.

Ond mae'r penderfyniad wedi arwain at bryderon na fyddan nhw'n medru benthyg yr arian fyddai ei angen er mwyn darparu tai newydd.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, sydd yn cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru, wedi croesawu addewid y llywodraeth i weithredu.

Targedau tai

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn darparu 20,000 o dai fforddiadwy dros gyfnod tymor nesaf y Cynulliad.

Ond mae'r cymdeithasau tai wedi rhybuddio y gallai fod yn anodd cyrraedd y targed hwnnw oni bai bod camau'n cael eu cymryd i wyrdroi'r newidiadau.

"Yn amlwg rydyn ni wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddan nhw'n gwneud beth bynnag y gallan nhw er mwyn ein rhoi ni yn y sector annibynnol unwaith eto," meddai prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, Stuart Ropke.

"Mae gennym ni gytundeb â Llywodraeth Cymru fydd yn ein gweld ni'n darparu 13,500 o dai tuag at y targed yna o 20,000.

"Rydyn ni'n hollol hyderus y bydd modd cyflawni hynny ond roedden ni'n glir iawn pan wnaethon ni arwyddo'r cytundeb â Llywodraeth Cymru mai dyma oedd un o'r darnau yn y jigso."

'Ddim yn bryder gormodol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe all yr holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru fod yn hyderus y bydd unrhyw faterion sydd yn codi o'r ailddosbarthu, gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau rheoleiddiol angenrheidiol, yn cael eu datrys ar y cyd â'r sector.

"Fe fyddwn ni'n cymryd unrhyw gamau sydd eu hangen, gan gynnwys deddfwriaethu, er mwyn gwarchod gallu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ariannu adeiladu a gwelliannau."

Dywedodd yr ONS fod y penderfyniad yn bennaf seiliedig ar y lefel o reolaeth lywodraethol dros y cymdeithasau tai.

O ganlyniad, fe fyddai unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn debygol o gynnwys dadreoleiddio.

"Dw i'n meddwl fod e'n bryder ond ddylai pobl ddim poeni'n ormodol, achos er y gallai Llywodraeth Cymru golli rhywfaint o reolaeth drwy ddeddfwriaethu, fe fyddai ganddyn nhw dal rhywfaint o reolaeth dros y sector drwy waith rhyw fath o dîm rheoleiddio."

Llynedd fe wnaeth llywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth i ddadreoleiddio cymdeithasau tai yn Lloegr, yn dilyn dyfarniad tebyg gan yr ONS.

Mae llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon yn ystyried camau tebyg yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf.