Rhybudd o niwl rhewllyd mewn sawl rhan o Gymru dros nos

Met Office map showing yellow weather warning of fog Image copyright Met Office

Mae gyrwyr wedi cael rhybudd i fod yn wyliadwrus ar y ffyrdd oherwydd niwl rhewllyd mewn sawl rhan o Gymru.

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd ryddhau rhybudd melyn am niwl mewn ardaloedd dwyreiniol o 17:00 ddydd Mercher tan 12:00 ddydd Iau.

Gallai'r niwl rhewllyd olygu nad oes modd gweld ymhellach na 100 metr (328 troedfedd), ac fe allai effeithio ar y ffyrdd yn ogystal ag awyrennau.

Mae'r rhybudd mewn grym mewn rhannau o Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen, Caerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg.