Cynghorau Cymru yn gwahardd eu staff o wefannau anweddus

teclynnau electronig Image copyright Thinkstock

Mae gwefannau pornograffi, gynnau a siopa ymysg y rheiny mae staff cynghorau sir Cymru wedi cael eu gwahardd rhag cael mynediad iddyn nhw.

Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC bod tudalennau gamblo, canfod cymar, a gemau hefyd wedi cael eu blocio gan awdurdodau lleol ers mis Ionawr 2014.

Dywedodd mudiad y Taxpayers' Alliance y byddai'r cyhoedd yn iawn i "gwestiynu" defnydd o'r gwefannau hynny.

Ond yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dim ond "canran fechan iawn" o weithwyr oedd wedi torri rheolau.

Rhai yn 'anfwriadol'

Gofynnwyd i gynghorau ddarparu rhestr o wefannau yr oedd staff wedi ceisio ymweld â nhw, ond wedi eu hatal rhag gwneud hynny, tra'n defnyddio ffonau, cyfrifiaduron, tabledi a theclynnau gwaith eraill ers Ionawr 2014.

Ond fe ddywedodd rhai cynghorau y gallai rhai o'r gwefannau ar y rhestr fod yn rai yr oedd staff wedi ymweld â nhw yn anfwriadol, neu eu bod yn hysbysebion.

Roedd y math o wefannau a gafodd eu hatal gan gynghorau yn cynnwys pornograffi, arfau, blogiau personol, siopa, swyddi, gemau, newyddion, teithio, a chwaraeon.

Doedd y rhan fwyaf o'r data ddim yn dangos os ceisiwyd ymweld â'r gwefannau yn ystod oriau gwaith.

Image copyright Thinkstock
Image caption Roedd gwefan codi pwysau i ferched yn un o'r rhai gafodd ei hatal gan un o'r cynghorau

Fe wnaeth data o gynghorau gan gynnwys Merthyr Tudful, Sir Benfro a Casnewydd ddangos bod staff wedi ceisio ymweld â gwefannau o natur rywiol neu anaddas.

Roedd staff o gyngor Casnewydd hefyd wedi ceisio mynd ar wefan oedd yn gwerthu drylliau.

Cafodd rhai staff hefyd eu hatal rhag ymweld â gwefannau gamblo, cyfryngau cymdeithasol, siopau fel Argos ac Amazon, a phapurau newydd.

Roedd cynghorau Gwynedd, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg unai wedi methu â darparu'r wybodaeth, neu wedi gwrthod.

'Defnydd amhriodol'

"Fe fydd trethdalwyr yn iawn i gwestiynu pam fod y teclynnau maen nhw'n talu amdanyn nhw yn cael eu defnyddio mewn modd mor amhriodol," meddai prif weithredwr Tapayers' Alliance, John O'Connell.

"Fe fydd rhai gweithwyr yn gweithio'n ddiwyd ac fe fydd rhai yn defnyddio'r we yn ystod seibiannau, ond mae'n rhaid i bennaethiaid cyngor sicrhau bod eu teclynnau yn cael eu defnyddio mewn modd priodol.

"Ar hyn o bryd mae'n edrych fel bod staff cyngor yn treulio gormod o amser ar y rhyngrwyd yn hytrach na gwneud y gwaith maen nhw'n cael eu talu i wneud."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod gan awdurdodau lleol "bolisïau llym ar y defnydd o'r we a chyfrifiaduron", a bod pwyslais ar staff i'w defnyddio'n gyfrifol.

"Yn aml mae camau disgyblu llym yn cael eu cymryd os yw hi'n dod i'r amlwg bod unigolyn wedi torri canllawiau, ac felly mae cynghorau yn aml yn monitro neu atal mynediad at wefannau penodol neu mathau o wefannau, fel mae'r data yma'n awgrymu," meddai'r llefarydd.

Ychwanegodd fodd bynnag nad oedd y data yn dangos faint o unigolion oedd wedi ymweld â'r gwefannau hynny, ac mai "canran fechan iawn" o'r 140,000 o weithwyr llywodraeth leol yng Nghymru fyddai wedi cel eu disgyblu am dorri rheolau.

Straeon perthnasol