Caerdydd yn rhyddhau Kieran Richardson a Marouane Chamakh

richardson a chamakh Image copyright Huw Evans picture agency

Mae rheolwr Caerdydd wedi cadarnhau bod y chwaraewr canol cae Kieran Richardson a'r ymosodwr Marouane Chamakh wedi gadael y clwb.

Dim ond ym mis Hydref y cafodd y ddau eu harwyddo gan y clwb, a hynny'n fuan wedi penodiad Neil Warnock i'r swydd.

Fe wnaeth Richardson chwe ymddangosiad dros yr Adar Gleision yn y cyfnod hwnnw, tra bod Chamakh wedi dod ymlaen fel eilydd ddwywaith.

"Maen nhw wedi bod yn broffesiynol iawn, ond mae angen i ni drin y garfan ac roedd y ddau yna'n hawdd gan bod eu cytundebau'n dod i ben. Bydd y ddau'n dod o hyd i glybiau newydd," meddai Warnock.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.