Abertawe'n annhebygol o benodi Giggs neu Coleman

giggs a coleman Image copyright Rex Features
Image caption Mae'r ddau Gymro, Giggs a Coleman, wedi cael eu hystyried yn geffylau blaen yn y ras i olynu Bob Bradley

Mae rheolwr dros dro Abertawe, Alan Curtis wedi dweud y dylai rheolwr nesaf y clwb ddod o Brydain "yn ddelfrydol", a chyda phrofiad o'r Uwch Gynghrair.

Bydd Curtis wrth y llyw pan fydd Abertawe'n croesawu Bournemouth i dde Cymru ddydd Sadwrn, a hynny'n dilyn diswyddiad Bob Bradley.

Ond mae adran chwaraeon y BBC ar ddeall nad yw'r clwb yn debygol o geisio penodi Ryan Giggs, gafodd gyfweliad cyn i Bradley gael ei benodi ym mis Hydref.

Mae gwraig rheolwr Cymru Chris Coleman, Charlotte, hefyd wedi awgrymu ar y cyfryngau cymdeithasol nad yw ei gŵr hi'n debygol o adael ei swydd bresennol i fynd i Stadiwm Liberty.

Ymysg yr enwau eraill sydd wedi cael eu crybwyll ar gyfer y swydd mae Gary Rowett, Alan Pardew a Harry Redknapp.

"Does dim ots pwy sy'n dod i mewn, ond rhaid iddo fe fod y person cywir. Yn ddelfrydol byddai'n dod o Brydain ac yn adnabod yr Uwch Gynghrair," meddai Curtis.

"Ond mae'n rhaid iddyn nhw [y bwrdd] fod yn hapus ei fod e'n ticio pob bocs o ran bod yn medru'n cael ni allan o'r sefyllfa rydyn ni ynddi."

Ychwanegodd Curtis nad oedd yn gwybod unrhyw beth am y sïon y gallai Coleman gael ei benodi, gan ddweud nad oedd wedi siarad â'r cadeirydd Huw Jenkins na'r perchnogion Americanaidd am y sefyllfa.