Graffiti'n ymddangos ar wal castell Caernarfon

Graffiti Image copyright Heddlu'r Gogledd

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am wybodaeth wedi i graffiti ymddangos ar wal castell Caernarfon.

Fe gafodd y geiriau 'Magna Carta Article 61' eu hysgrifennu'n goch ar ddarn isaf mur y castell gyferbyn a'r Cei Llechi ger y bont droed.

Dywedodd y Rhingyll Rhys Gough o Gaernarfon: "Rhyw ben rhwng canol nos ar ddydd Mawrth 27 Rhagfyr a'r bore canlynol, dydd Mercher 28 Rhagfyr, roedd rhywun wedi gadael graffiti ar waliau'r castell.

"Rwy'n apelio ar y gymuned leol am unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn, neu os oeddech chi wedi gweld unrhyw weithgaredd amheus yn yr ardal fe allwch gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru drwy sgwrs fyw ar y we.

"Neu gallwch ffonio'r heddlu ar 101 neu gysylltu gyda Taclo'r Taclau ar 0800 555 111 gan ddefnyddio'r cyfeirnod U194609."

Image copyright Heddlu'r Gogledd