Chris Coleman a Bryn Terfel yn cael eu hanrhydeddu

Coleman Terfel
Image caption Mae Chris Coleman (chwith) yn derbyn OBE, a Bryn Terfel yn cael ei urddo'n farchog

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, a'r canwr Bryn Terfel ymysg y Cymry ar restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd gan y Frenhines.

Mae Coleman, wnaeth arwain Cymru i rownd gynderfynol Euro 2016 - prif gystadleuaeth gyntaf Cymru mewn 58 o flynyddoedd - yn derbyn OBE.

Cafodd Bryn Terfel ei urddo'n farchog am ei wasanaethau i gerddoriaeth.

Ymysg y sêr Olympaidd a Pharalympaidd sy'n cael eu hanrhydeddu mae'r seiclwyr Elinor Barker ac Owain Doull, yr athletwraig Hollie Arnold, yr hwylwraig Hannah Mills a'r chwaraewr tenis bwrdd Rob Davies, sydd i gyd yn derbyn MBE.

Mae cyn-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Athro Dai Smith, a phennaeth safonau'r Cynulliad, Gerard Elias QC hefyd wedi derbyn CBE, tra bod arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Peter Fox, yn cael OBE.

Er hynny mae'r anrhydeddau wedi rhannu barn ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai gan gynnwys y canwr Dafydd Iwan a mudiad Yes Cymru yn mynegi siom gyda'r penderfyniad i'w derbyn oherwydd y cysylltiad â'r frenhiniaeth a'r Ymerodraeth Brydeinig.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae MBE i Elinor Barker yn dilyn ei llwyddiant yng Ngemau Olympaidd Rio
Image copyright Getty Images
Image caption Mae Owain Doull, wnaeth dorri record byd wrth ennill y ras erlid yn y felodrom, hefyd yn cael MBE

Dywedodd Bryn Terfel, sydd wedi canu ar draws y byd, fod y newyddion wedi dod fel cryn syndod iddo:

"I ddyfynnu Williams Parry a'r llwynog: 'Syfrdan y safodd yntau'! Aeth fy nheg i'n sych, aeth fy ngwyneb i'n llwyd, roedd curiad fy nghalon i wedi treblu...a wedyn wedi sobri a meddwl amdano fo, mae na restr arbennig iawn o gantorion wedi derbyn y fath anrhydedd.

"Meddyliwch am y Fonesig Dame Gwyneth Jones. Meddyliwch am Margaret Price. Ond yn bennaf oll - Syr Geraint Evans. Allai byth anghofio'r diwrnod cyntaf nes i gyfarfod Syr Geraint, a'r rheswm pam fod na 'Syr' o flaen ei enw fo - mae na rhyw gravitas - a mae o'n rhywbeth i chi anelu at. A dwi'n gobeithio y bydd na gantorion ifanc hefyd o Gymru, o Brydain Fawr, yn gweld mod innau wedi cael y fath anrhydedd ac yn eu hysgogi nhw hefyd i weithio'n galed ac i fwynhau eu perfformio."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ymateb Bryn Terfel i'w anrhydedd

Hefyd wedi ei gynnwys mae cyn lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes, sy'n derbyn MBE am ei wasanaethau i bêl-droed, yn enwedig ar Ynys Môn.

Wrth ddisgrifio derbyn yr anrhydedd, dywedodd Mr Lloyd Hughes wrth BBC Cymru: "Teimladau cymysglyd i fod yn onest hefo chi. Ddim yn siwr iawn i'w dderbyn o ta beidio ei dderbyn o achos dwi'n un o'r rhain sydd yn credu bor llawer i berson tu allan i fy nheulu fi fy hun yn haeddu fo yn fwy na fi.

"Mae na bobl yng Nghymru, pobl yn Ynys Môn 'ma hyd yn oed, ac hyd yn oed yng Nghaergybi yn ei haeddu fo lot lot lot fwy na fi, ond yn digwydd bod fy enw fi sydd wedi dod i fyny, a dwi wedi ei dderbyn o ar ran pobl pêl-droed Cymru, ac fel da chi'n gwybod, pobl pêl-droed Ynys Môn sydd yn gyfrifol am hyn i gyd."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Anrhydeddu Trefor Lloyd Hughes am ei wasanaeth

Mae anrhydeddau MBE i'r chwaraewr tenis bwrdd Paralympaidd, Robert Davies, y nofiwr Paralympaidd, Aaron Moores, a hefyd Hannah Mills, enillodd fedal aur yn y gystadleuaeth hwylio yng Ngemau Olympaidd Rio eleni.

Yn derbyn anrhydedd CBE eleni mae Comisiynydd Safonau yn y Cynulliad, Gerard Elias QC, yr Athro David Smith am ei wasanaethau i'r celfyddydau, a'r Athro Hywel Rhys Thomas a'r Athro Anita Tharpar o Brifysgol Caerdydd.

Image caption Dywedodd William David Lyndon Lloyd bod yr anrhydedd wedi bod yn syndod i ddechrau

Dywedodd Rosemary Jones, prifathrawes Ysgol Elfed yn Sir y Fflint ei bod yn "falch iawn" i gael OBE, tra bod cynghorydd Ceredigion a llywydd elusen Age Concern Cymru, William David Lyndon Lloyd o Beulah, Ceredigion, yn dweud ei fod yn "bleser" cael ei anrhydeddu.

Dywedodd mai syndod oedd yr ymateb cyntaf: "Ond wedyn dwi'n ei weld e yn nhermau cydnabod fy ngwasanaeth i, ond cydnabod gwasanaeth yr holl bobl, gwirfoddolwyr, swyddogion a'r staff sydd wedi gweithio yn galed dros y blynyddoedd yn Age Cymru, Ceredigion ac yn genedlaethol hefyd.

"Mae'n bwysig cofio ein bod yn cofio ein bod yn rhoi gwasanaeth dros Gymru gyfan."

Mae gwirfoddolwyr gyda thîm achub mynydd, gweithwyr carchar, athrawon, nyrsys, parafeddygon ac academyddion ymysg y Cymry eraill i gael eu hanrhydeddu.