Rhybudd Swyddfa Dywydd am niwl yn y dwyrain

niwl

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am niwl trwchus ar gyfer rhannu o Gymru ddydd Gwener.

Mae'r rhybudd mewn grym o 11:30 tan 16:00 brynhawn Gwener.

Bydd y niwl yn rhewi mewn mannau ac yn arwain at amodau gyrru anodd.

Mae'r rhybudd ar gyfer siroedd Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Torfaen a Chasnewydd.

Fe fydd gwelededd yn llai na 100m mewn mannau ac fe allai'r niwl barhau tan gyda'r nos. Fe fydd diweddariadau ar wefan y Swyddfa Dywydd yn ystod y dydd.