George North yn dychwelyd i Northampton

George North Image copyright Rex Features
Image caption Cafodd George North ei anaf wrth chwarae i'w glwb yn erbyn Leicester Tigers

Fe fydd George North yn chwarae i'w glwb Northampton Saints am y tro cyntaf ers iddo gael anaf i'w ben ar 3 Rhagfyr.

Ni chafodd y clwb gosb am ganiatáu i asgellwr Cymru ddychwelyd i'r maes wedi'r anaf, er bod panel cyfergyd wedi dweud na ddylai fod wedi chwarae.

Mae World Rugby - corff rheoli'r gamp - wedi gofyn am fwy o fanylion gan Undeb Rygbi Lloegr am ddiffyg cydymffurfio Northampton gyda'r rheolau'n ymwneud â chyfergyd mewn perthynas â George North.

Roedd yr asgellwr 24 oed wedi diodde' pedair ergyd i'w ben mewn pum mis rhwng Tachwedd 2014 a Mawrth 2015 gan arwain at gyfnod o beidio chwarae rhwng Mawrth ac Awst 2015.

Mae North yn cymryd lle Juan Pablo Estelles, ac mae Ross Moriarty ar y fainc ar gyfer y gêm yng Nghaerloyw ar Ddydd Calan.

Yn nhîm Caerloyw mae James Hook a Richard Hibbard.

Caerloyw: Hook; Halaifonua, Symons, Twelvetrees, May; Burns, Heinz (capt); Hohneck, Hibbard, Ma'afu, Savage, Thrush, Ludlow, Kvesic, Morgan.

Eilyddion: Matu'u, McAllister, Afoa, Galarza, Moriarty, Laidlaw, Scott, Purdy

Northampton: Foden; Pisi, Burrell, Hanrahan, North; Myler, Groom; Waller, Haywood, Brookes, Lawes, Day, Wood (capt), Harrison, Picamoles.

Eilyddion: Clare, Waller, Hill, Ratuniyarawa, Gibson, Kessell, Mallinder, Estelles.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.