Brighton v Caerdydd wedi ei gohirio o achos niwl trwchus

Niwl Image copyright Rex Features

Cafodd y gêm yn y Bencampwriaeth rhwng Brighton & Hove Albion a Chaerdydd ei gohirio nos Wener o achos niwl trwchus yn Stadiwm Amex.

Fe wnaeth y ddau glwb a'r dyfarnwr Chris Kavanagh gytuno i ohirio'r gêm am 18:00 yn dilyn tri archwiliad o'r cae.

Fe allai'r penderfyniad effeithio ar rai o gefnogwyr Caerdydd sydd wedi teithio i Brighton gan ddisgwyl y gic gyntaf oedd i fod am 19:45.

Dywedodd Paul Barber, prif weithredwr clwb Brighton & Hove Albion wrth BBC Sussex: "Rhaid i ddiogelwch chwaraewyr a chefnogwyr fod yn flaenoriaeth.

"O ran edrych ar y sefyllfa i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr, dyma oedd y peth gorau i'w wneud.

"Mae Chris [Hughton - rheolwr Brighton] yn credu mai dyma'r penderfyniad cywir ac mae hyfforddwr Caerdydd yn cytuno hefyd."

Dywedodd y dyfarnwr nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond gohirio'r gêm ar fyr rybudd.

Nid oes dyddiad wedi ei osod eto ar gyfer yr ail-chwarae.