Y Seintiau Newydd yn gosod record byd newydd

Y Seintiau'n dathlu curo Cwpan Cymru yn 2016 Image copyright Gareth Hughes
Image caption Y Seintiau'n dathlu curo Cwpan Cymru yn 2016

Mae clwb Y Seintiau Newydd wedi gosod record byd newydd yn dilyn eu buddugoliaeth oddi cartref dros Dderwyddon Cefn nos Wener.

Mae'r clwb o Groesoswallt wedi ennill 27 gêm yn olynol ymhob cystadleuaeth y tymor hwn, ac mae hynny'n golygu eu bod wedi torri record clwb Ajax o'r Iseldiroedd a osodwyd 44 mlynedd yn ôl.

Y sgôr wedi'r chwiban olaf oedd 0-2 i'r ymwelwyr - oedd yn ddigon i sicrhau lle'r Seintiau Newydd yn y llyfrau hanes. Aeron Edwards a Jon Routledge sgoriodd y ddwy gôl i'r Seintiau Newydd.

Gweddill canlyniadau nos Wener

Cei Connah 5-1 Airbus

Y Rhyl 2-0 Bala