Niwl yn achosi oedi a newidiadau ym Maes Awyr Caerdydd

maes awyr caerdydd Image copyright Maes Awyr Caerdydd

Mae niwl wedi effeithio ar wasanaethau ym Maes Awyr Caerdydd, gydag oedi i rai hedfaniadau ac eraill yn cael eu dargyfeirio.

Dywedodd y maes awyr eu bod yn disgwyl i rai awyrennau ar Nos Galan gael eu heffeithio, a hynny o ganlyniad i'r tywydd gwael ddydd Gwener.

Mae'r tywydd yn ne Lloegr hefyd wedi cael effaith, ac mae disgwyl i'r trafferthion barhau drwy gydol y dydd.

Cafodd rhai awyrennau eu dargyfeirio i Faes Awyr Bryste yn gynharach, ac mae disgwyl oedi o hyd at ddwy awr ar hedfaniadau eraill yn ystod y dydd.