Casnewydd 1-4 Exeter

Ollie Watkins Image copyright Rex Features
Image caption Fe sgoriodd Ollie Watkins naill ochr i'r egwyl i roi Exeter ddwy gôl ar y blaen, cyn cipio trydedd hwyr

Roedd tair gôl gan Ollie Watkins yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Exeter yn erbyn Casnewydd yn Rodney Parade.

Yr ymwelwyr reolodd y meddiant cynnar, ond roedd Casnewydd yn fygythiol hefyd gyda Marlon Jackson a Rhys Healey yn cael cyfleoedd.

Fe aeth Liam McAlinden yn agos ar ben arall y cae, a chydag Exeter yn dechrau rheoli'r gêm llwyddodd Watkins i rwydo'r gôl agoriadol ar drothwy hanner amser.

O fewn dau funud i ddechrau'r ail hanner roedd pethau wedi mynd o ddrwg i waeth i dîm Graham Westley, wrth i Watkins sgorio'i ail yn dilyn pas hir gan McAlinden.

Ac roedd yr ornest fwy neu lai ar ben ar ôl 53 munud, gyda David Wheeler yn sgorio trydedd i Exeter.

Sgoriodd Sean Rigg gôl gysur hwyr i'r Alltudion, cyn i Watkins gipio'i drydedd o'r prynhawn, a gadael Casnewydd ar waelod tabl Cynghrair Dau.