Disgwyl i Abertawe benodi Paul Clement fel rheolwr newydd

Paul Clement Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Paul Clement yn olynu'r Americanwr, Bob Bradley yn y swydd

Mae disgwyl i Abertawe gadarnhau'n fuan mai Paul Clement fydd eu rheolwr newydd.

Mae'r clwb yn gobeithio y bydd olynydd Bob Bradley yn ei le erbyn dechrau'r wythnos, gyda'r Elyrch yn wynebu Crystal Palace ddydd Mawrth.

Mae Clement wedi bod yn cynnal trafodaethau ag Abertawe am y swydd, a fe fyddai eu trydydd rheolwr y tymor hwn.

Cafodd ei ddiswyddo gan Derby ym mis Chwefror ar ôl wyth mis wrth y llyw, ac ers hynny mae wedi bod yn is-reolwr ar Bayern Munich.

Bydd gan Clement y dasg o geisio cadw Abertawe yn yr Uwch Gynghrair, a hwythau ar waelod y tabl ar hyn o bryd ar ôl colli gartref o 3-0 i Bournemouth ddydd Sadwrn.

Ymysg y rheiny oedd hefyd wedi cael eu crybwyll fel enwau posib ar gyfer y swydd roedd Chris Coleman, Ryan Giggs a Gary Rowett.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.