Southport 3-2 Wrecsam

John Rooney Image copyright Rex Features
Image caption Roedd John Rooney yn meddwl ei fod wedi cipio pwynt i Wrecsam

Trechwyd Wrecsam gan gôl hwyr wrth i Liam Nolan gipio'r pwyntiau i Southport mewn gêm llawn goliau yn y Gynghrair Genedlaethol.

Cafodd Wrecsam y dechreuad perffaith i'r gêm, gyda Jordan White yn sgorio'i gôl gyntaf dros y clwb ar ôl i ergyd Gerry McDonagh gael ei arbed.

Ond bu'n rhaid i Gary Mills wneud newid cynnar i'w dîm, gyda Callum Powell yn dod ymlaen yn lle Paul Rutherford oherwydd anaf.

Ar ôl 36 munud roedd Southport yn hafal wrth i Nolan rwydo o gic gornel, ac ar drothwy hanner amser fe aethon nhw ar y blaen diolch i Dalial Brewster.

Bu'n rhaid i Wrecsam eilyddio am yr eildro ar yr egwyl, gyda'r golwr Chris Dunn yn dod i'r cae yn lle Shwan Jalal oedd wedi gorfod derbyn triniaeth ddwywaith yn yr hanner cyntaf.

Llwyddodd y Dreigiau i frwydro nôl a'i gwneud hi'n gyfartal wedi 66 munud, wrth i McDonagh gael ei faglu yn y cwrt cosbi a John Rooney yn rhwydo o'r smotyn.

Ond gyda thri munud i fynd fe gipiodd Nolan ei ail gôl, a sicrhau bod Wrecsam yn gadael yn waglaw.