Paul Clement wedi cytuno i fod yn rheolwr nesaf Abertawe

Paul Clement

Mae Paul Clement, rheolwr cynorthwyol Bayern Munich, wedi cytuno ar gytundeb dwy flynedd a hanner i reoli'r Elyrch.

Yn gynharach ddydd Llun fe roddodd y clwb o'r Almaen ganiatâd i Paul Clement, 44 oed, i siarad ag Abertawe.

Cafodd Clement gyfweliad am y swydd ym mis Hydref cyn i Bob Bradley afael yn yr awennau yn dilyn ymadawiad y prif hyfforddwr Francesco Guidolin.

Paul Clement felly fydd trydydd rheolwr Abertawe y tymor hwn. Y disgwyl yw y bydd e'n bresennol yn y gêm rhwng Crystal Palace a'r Elyrch yn Selhurst Park nos Fawrth.

Tan fis Chwefror 2016 roedd Mr Clement yn rheoli tîm Derby County a chyn hynny bu'n rheolwr cynorthwyol ar dimau Chelsea a Real Madrid.

Mae'r Elyrch wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf gan gynnwys yr un ddydd Sadwrn adref yn erbyn Bournemouth.