Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-0 Aston Villa

Joe Ralls yn dathlu unig gôl y gêm Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Joe Ralls yn dathlu unig gôl y gêm

Roedd hi'n gêm gyffrous a bywiog yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i'r tîm cartref herio Aston Villa - tîm sydd wedi ennill un pwynt ar ddeg yn fwy na Chaerdydd yn ystod y tymor.

Aeth Caerdydd ar y blaen ar ôl chwarter awr a hynny drwy gôl ddigon blêr.

O fewn ychydig funudau cafodd y tîm cartref ddwy gic gornel ac yn ystod yr ail gic aeth y bêl yn rhydd yn y cwrt chwech gan gyffwrdd ag amryw o chwaraewyr ond fe gadwodd Joe Ralls ei ben a gwthio'r bêl dros y linell ac i'r rhwyd.

Daeth Aston Villa allan ar y cae ar ddechrau'r ail hanner yn benderfynol - yn amlwg roedd Steve Bruce wedi cael gair neu ddau gyda nhw.

Ond roedd Caerdydd yn dal yr un mor ystyfnig ac yn dal eu gafael ar eu blaenoriaeth gan fygwth gydag ambell wrth-ymosodiad.

Fe gafwyd gêm dda gan Zohore, Sol Bamba a Ralls i Gaerdydd ac y mae gobeithion Caerdydd am rediad gwell yn edrych yn fwy gobeithiol.