Adran 2: Wycombe Wanderers 2-1 Casnewydd

Wycombe v Casnewydd

Roedd Casnewydd wedi teithio i Wycombe ar gyfer gêm brynhawn Llun ac ar ôl awr o chwarae, yn gwbl groes, i'r disgwyl aeth yr ymwelwyr ar y blaen.

Mark Randall roddodd Casnewydd ar y blaen gydag ergyd droed dde heibio Brown i gornel dde isaf y gôl.

Ond ymhen deg munud yr oedd Wycombe wedi ailafael yn y gêm gyda gôl ddramatig gan Wood wrth iddo roi clamp o ergyd troed chwith o du allan i'r blwch cosbi.

Yna ymhen deg munud arall, ddeg munud cyn diwedd y gêm, dyma ergyd troed dde arall o du allan i'r blwch yn taro'r rhwyd a Paris Cowan-Hall yn rhoi Wycombe ar y blaen.

Felly colled arall i Gasnewydd - hyd yma 'dyw hi fawr o flwyddyn newydd dda i'r tîm o Went.