Radio Cymru: Cofio 'nôl ac edrych 'mlaen
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Radio Cymru: Beti George yn cofio 'nôl ac edrych 'mlaen

3 Ionawr 2017 Diweddarwyd 16:31 GMT

Mae'r unig orsaf radio Gymraeg genedlaethol yn dathlu 40 mlynedd o fod ar yr awyr ddydd Mawrth.

Ar fore 3 Ionawr 1977 fe aeth Radio Cymru yn fyw, ac mae'n parhau i fod hyd heddiw.

Mae golygydd yr orsaf, Betsan Powys wedi dweud bod yn rhaid diogelu'r gwasanaeth craidd gan ganolbwyntio ar gynnal un orsaf genedlaethol, ond mae un o hoelion wyth y gwasanaeth yn dweud bod angen ail sianel er mwyn ymestyn yr apêl.

Mae Beti George yn cofio 'nol at y cyffro a'r heriau wrth i Radio Cymru gael ei lansio, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol gan ystyried beth yw'r cam nesaf i'r gwasanaeth.