Apêl am dystion i wrthdrawiad difrifol yn y Barri

Gwrthdrawiad Barri Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd y Barri nos Fawrth

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion yn dilyn gwrthrawiad difrifol yn y Barri nos Fawrth.

Bu tacsi Skoda Octavia gwyn mewn gwrthdrawiad a bachgen 16 oed ar Ffordd y Barri, gyferbyn â'r gyffordd â Stryd Llewelyn.

Mae'r bachgen yn ddifrifol wael ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Bu'r ffordd ynghau am bedair awr wrth i'r heddlu ymchwilio, ac maen nhw'n awyddus i siarad ag unrhyw un welodd y gwrthdrawiad.