Cofio Wrecsam yn trechu Arsenal
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cofio 25 mlynedd ers i Wrecsam drechu Arsenal

4 Ionawr 2017 Diweddarwyd 10:52 GMT

Mae hi'n 25 mlynedd ers i glwb pêl-droed Wrecsam guro Arsenal yng Nghwpan FA Lloegr.

Ar ddiwedd y tymor blaenorol, roedd 91 o lefydd rhwng y ddau dîm yng nghynghrair Lloegr, gydag Arsenal wedi ennill yr adran gyntaf tra bo Wrecsam wedi gorffen ar waelod yr hen bedwaredd adran.

Roedd Wayne Phillips yn chwarae i'r Dreigiau'r diwrnod hwnnw, a Nic Parry oedd sylwebydd Radio Cymru yn y gêm.

Ar raglen Post Cyntaf fore Mercher bu'r ddau yn cofio 'nôl, gan rannu eu hatgofion o'r gêm hanesyddol.