Teyrngedau teulu i fachgen fu farw yn y Barri

Morgan Ackerman with his mother Image copyright Llun teulu

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i fachgen "gwych" 16 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad gyda thacsi ym Mro Morgannwg.

Bu farw Morgan Ackerman yn yr ysbyty wedi iddo gael ei daro gan dacsi Skoda Octavia gwyn ar Heol y Barri yn y Barri am 22:30 nos Fawrth.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu fod Morgan, oedd yn cael ei adnabod fel Morgie, yn "cael ei garu gan bawb oedd yn ei adnabod."

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am dystion.

"Roedd wastad yn un am chwarae jôc ac roedd o hyd yn gweld y gorau ym mhawb," meddai'r datganiad gan ei deulu.

"Nid yw'n ormodedd i ddweud mai fo oedd calon ac enaid ble bynnag yr oedd ac roedd yn caru gwneud i bobl wenu. Roedd yn tynnu coes ei chwaer fawr Ellie yn gyson, ond yna fe fyddai'n gwneud iddi chwerthin o hyd wedyn.

"Roedd Morgie'n ddyn ifanc mor gariadus, ac enghraifft o hyn yw'r ffordd y talodd am frecwast i bawb o'i deulu'n ddiweddar o gyflog ei swydd ran amser - dyna'r math o fachgen oedd o...mae wedi gadael gofod anferth yng nghalonnau pawb. Fe fydd pawb ddaeth ar ei draws yn ystod ei 16 mlynedd yn y byd hwn yn ei golli."