Norwy: Yn yr oerfel?

Mae'r gohebydd Daniel Davies wedi camu i esgidiau Vaughan Roderick yr wythnos hon gyda blog am ei daith i Norwy.

Brrrrrrrrexit!

Cadw mas, neu aros mewn? Dyna'r cwestiwn mawr yn Norwy.

Nid mewn neu mas o'r Undeb Ewropeaidd oedd yr unig gwestiwn ar fy meddwl i a'm cydweithiwr Geraint yn Oslo.

Ond sawl siwmper a chôt sydd angen gwisgo cyn mentro allan o westy cynnes i ffilmio tu fas yn oerfel gaeaf Scandinafia?

Mae'n brofiad rhyfedd - trafod gwleidyddiaeth Cymru tra'n sefyll ar do adeilad yng nghanol Oslo gyda'r eira yn cwympo.

Fel mae'n digwydd, mae hwn wedi bod yn aeaf mwyn yn Norwy. Ond roedd hi'n teimlo yn eithriadol o oer i ninnau.

Nid yr hinsawdd, wrth gwrs, ond cysylltiadau'r wlad gydag Ewrop dennodd Carwyn Jones yma.

Mae 'na gynhesrwydd tuag at Ewrop fan hyn - ond dim awydd gan y rhan fwyaf o bobl am fwy o integreiddio.

Fe ddaeth Mr Jones yma i weld os oedd perthynas unigryw Norwy gyda gweddill y cyfandir yn addas i Gymru ar ôl Brexit.

Mae Norwy tu fas i'r undeb, ond mae hi yn aelod o'r farchnad sengl.

Mae'n debyg bod hynny'n sefyllfa sy'n siwtio'r rhan fwyaf o bobl yma i'r dim, er gwaethaf y cyfaddawdu sydd yn rhan o'r fargen.

Fel rhan o'r cytundeb mae'r wlad yn agor ei ffiniau i weithwyr o Ewrop sydd â hawl i ddod yma yn rhydd. Mae lefel mewnfudo y pen yn uwch fan hyn na Phrydain.

Peth da ydy hynny, meddai llawer o bobl Norwy. Mae eu heconomi nhw yn gryf.

Diolch i olew a nwy, gwlad cyfoethog yw hon, ac er bod diweithdra yn uchel ar hyn o bryd, mae Ulf Sverdrup, pennaeth sefydliad materion tramor Norwy, yn dweud wrtha' i byddai'r mwyafrif o bobl yn cytuno bod mewnfudo wedi cyfrannu tuag at lewyrch eu cenedl.

Mae'r Norwyaid wedi pleidleisio yn erbyn ymuno â'r Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol. Dyw hynny ddim yn debygol o newid, er mawr yw siom Svein Roald Hansen, aelod seneddol o Blaid Lafur y wlad. Mae e'n un o'r lleiafrif o'r boblogaeth sy'n cefnogi aelodaeth llawn o'r Undeb Ewropeaidd.

Yn neuadd osgeiddig y senedd - Y Storting - eglurodd mai costau byw a gwasanaethau cyhoeddus fydd yn hawlio'r sylw yn etholiadau'r wlad eleni - nid Ewrop.

Yn ystod ein sgwrs, roedd protest swnllyd yn digwydd ar y stryd tu allan i'r adeilad am ddifa bleiddiaid gwyllt.

Yn ôl pob sôn, mae 'na anghydfod rhwng y llywodraeth a'r awdurdodau lleol dros faint o'r anifeiliad ddylai gael eu lladd. Bydd angen trafod a chyfaddawdu er mwyn datrys y tensiynau.

Mae Norwy wedi hen arfer â'r math yna o wleidyddiaeth yn ei pherthynas ag Ewrop. Bydd rhaid i Brydain neud yr un peth pan fo'r trafodaethau Brexit yn dechrau o ddifrif mis Mawrth.