Hull 2-0 Abertawe

Marco Silva and Paul Clement Image copyright Getty Images
Image caption Hon oedd gêm gyntaf Abertawe gyda Paul Clement (dde) wrth y llyw

Fe wnaeth Abel Hernandez, sydd heb chwarae ers mis Tachwedd oherwydd anaf, ddychwelyd i sicrhau buddugoliaeth i Hull yn erbyn Abertawe yng Nghwpan yr FA.

Sgoriodd Hernandez 15 munud ar ôl dod ar y cae fel eilydd yn y frwydr rhwng y ddau dîm ar waelod yr Uwch Gynghrair.

Josh Tymon sgoriodd ail gôl Hull yn eu gêm gyntaf dan arweinyddiaeth y rheolwr newydd Marco Silva.

Hon hefyd oedd gêm gyntaf Paul Clement wrth yr awenau i Abertawe ac roedd y golled yn brawf o'r gwaith cael sy'n ei wynebu.