Wrecsam 2-1 Woking

John Rooney Image copyright Rex Features
Image caption Mae John Rooney wedi sgorio saith gôl i Wrecsam ers ymuno â'r clwb y tymor diwethaf

Fe wnaeth John Rooney sgorio ym muddugoliaeth Wrecsam yn erbyn Woking, ar yr un diwrnod a wnaeth ei frawd Wayne ddod yn gyfartal â record Manchester United am y chwaraewr sydd wedi sgorio mwyaf o goliau erioed i'r clwb o Fanceinion.

Tra bod y brawd hŷn yn dathlu sgorio gôl rhif 249 i United wrth iddynt guro Reading 4-0 yng Nghwpan yr FA, fe wnaeth John, 26 oed, roi'r tîm cartref ar y blaen ar y Cae Ras.

Daeth Woking yn gyfartal gyda pheniad Fabio Saraiva cyn i Robbie Evans selio'r fuddugoliaeth i'r Cochion.

Golygai'r canlyniad fod Wrecsam yn symud i safle 15 yn y Cynghrair Cenedlaethol.