Gwasanaethau arbennig i ddathlu ordeinio merched

Llanlwy Image copyright Eglwys yng Nghymru
Image caption Y gwragedd cyntaf i gael eu hordeinio yn Llanelwy, 1997

Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal gwasanaethau arbennig dydd Sadwrn i nodi 20 mlynedd ers i ferched gael eu hordeinio yn offeiriaid am y tro cyntaf.

Bydd y chwe chadeirlan Gymreig - Tyddewi, Bangor, Llandaf, Llanelwy, Aberhonddu a Chasnewydd - yn cynnal gwasanaethau er mwyn dathlu'r garreg filltir.

Yn 1997 cafodd 60 o fenywod eu hordeinio yn dilyn ymgyrch hir i sicrhau cydraddoldeb o fewn yr eglwys.

Cyn diwedd mis Ionawr bydd yr eglwys yn cymryd cam arall i'r un cyfeiriad pan fydd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi yn esgob, y Canon Joanna Penberthy, yn cael ei chysegru yn esgob Tyddewi ar 21 Ionawr.

Roedd y Canon Enid Morgan ymhlith y gwragedd cyntaf i gael eu hordeinio yn 1997.

Dywedodd: "Ugain mlynedd yn ddiweddarach mae gennym bob rheswm dros ddathlu ac edrych ymlaen.

"Mae cenhedlaeth gyfan wedi tyfu lan yn gweld menywod fel offeiriaid a'u gweinidogaeth fel bod yn normal, a gallwn ddechrau cymryd rhai pethau'n ganiataol."

Ychwanegodd: "Yn wir, pan welwch luniau neu ffilm o grwpiau o glerigwyr heb unrhyw fenywod yn bresennol, mae'n edrych yn rhyfedd a hyd yn oed braidd yn hurt. Creiriau o'r oes o'r blaen."