Dreigiau 26-08 Treviso

Image caption Y mewnwr Sarel Pretorius, sgoriwr cais cyntaf y Dreigiau

Mae'r Dreigiau wedi sicrhau eu pedwaredd fuddugoliaeth o'r tymor wrth iddyn nhw guro Treviso yn Rodney Parade.

Sgoriodd yr ymwelwyr gais cynnar gan y mewnwr Tito Tebaldi.

Ychydig cyn yr egwyl fe groesodd Sarel Pretorius o dan y pyst, ac roedd gan y tîm cartref fantais o bum pwynt ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Gyda chymorth ciciau cosb Angus O'Brien fe lwyddodd y Dreigiau i ymestyn eu mantais ymhellach.

Yna fe ddaeth cais arall i'r Dreigiau yn dilyn gwthiad effeithiol gan y blaenwyr - y capten Lewis Evans yn sgorio.