Prifysgol Abertawe yn anrhydeddu Chris Coleman

Chris Coleman Image copyright Getty Images

Bydd rheolwr Cymru Chris Coleman yn derbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.

Fe wnaeth Coleman, sy'n enedigol o'r ddinas, dderbyn OBE yn ddiweddar ar ôl iddo arwain Cymru i rownd gyn-derfynol Euro 2016 yn Ffrainc.

Hwn oedd ymddangosiad cyntaf Cymru yn rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau'r byd pêl-droed ers 58 mlynedd.

Fe fydd yr hyfforddwr 46 oed yn derbyn gradd MSc mewn seremoni ddydd Mercher.

Mae Prifysgol Abertawe yn rhoi graddau anrhydedd bob blwyddyn er mwyn cydnabod pobl sydd wedi gwneud cyfraniad allweddol i'r brifysgol, y rhanbarth a Chymru.

Ddydd Llun fe fydd Roger Blyth, cadeirydd clwb rygbi y Gweilch yn derbyn MSc, tra bydd gradd DSc yn cael ei roi i is-ganghellor Prifysgol Malaysia Terengganu, Kuala Lumpur, yr athro Dr Nor Aieni Haji Mokhtar.

Fe fydd y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Gwenda Thomas, yn derbyn anrhydedd, ynghyd â chyn-AC Plaid Cymru, Helen Mary Jones.

Ddydd Mercher bydd prif gwnstabl Heddlu De Cymru yn derbyn doethuriaeth mewn gwyddoniaeth.