Ysgol berfformio yn rhyddhau fideo er cof am Rebecca Evans

Rebecca Evans Image copyright Llun Teulu

Mae myfyrwyr mewn ysgol berfformio yn Sir Gaerfyrddin wedi rhyddhau fideo i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ac er cof am eu cyn athrawes a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4.

Bu farw Rebecca Evans, oedd yn helpu hyfforddi myfyrwyr Encore, ar 29 Tachwedd mewn gwrthdrawiad ger Port Talbot.

Roedd hi wyth mis yn feichiog ar y pryd a bu farw'r babi Cari oedd heb ei eni hefyd.

Dywedodd Elin Wyn Murphy, pennaeth yr ysgol berfformio, fod y fideo o'r myfyrwyr yn canu'r gân Anfonaf Angel yn fodd o roi teyrnged i Becca.

"Mae'r ymateb i fideo Encore yn perfformio Anfonaf Angel wedi bod yn anhygoel. Mae'n gân emosiynol iawn i mi yn enwedig gan i deulu Becca ofyn i mi ei chanu yn ei hangladd ychydig wythnosau yn ôl," meddai.

Image copyright Encore
Image caption Mae perfformwyr Encore rhwng pedair a 18 oed

"Rwy' mor falch o fyfyrwyr Encore. Fe ddaethan nhw ynghyd gan ddangos cryfder anhygoel ynghyd â'r dewrder i allu recordio'r deyrnged yma i Becca. Roedden nhw fel y fi, yn meddwl y byd ohoni."

Mae fideo o Encore yn paratoi'r record wedi cael ei rannu ar y gwefannau cymdeithasol er mwyn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn y car hefyd adeg y gwrthdrawiad yr oedd partner Miss Evans, Alex, a'u plentyn dyflwydd oed Cian, a gafodd anafiadau difrifol i'w ben.

Cafodd ei gludo mewn ambiwlans awyr i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.