Cefnwr Cymru Liam Williams i adael y Scarlets

Liam Williams Image copyright Getty Images

Mae cefnwr Cymru, Liam Williams, wedi arwyddo i glwb Saracens ar gytundeb tair blynedd.

Bydd Williams, sy'n 25 oed, yn gadael y Scarlets ar ddiwedd y tymor presennol.

Mae e wedi ennill 38 cap rhyngwladol i Gymru ac wedi chwarae mewn 100 o gemau i'r Scarlets.

Fe allai'r trosglwyddiad fygwth dyfodol rhyngwladol Williams, gan fod 'Rheol Gatland' yn golygu mai dim ond tri chwaraewr sy'n chwarae tu allan i Gymru sy'n gallu cael eu dewis yn y garfan.

Dywedodd Williams: "Dwi wedi mwynhau fy amser yn y clwb, gan wneud ffrindiau oes yn ogystal â chael y cyfle i ddatblygu fy ngêm.

"Bydda' i'n parhau i roi fy oll i grys y Scarlets a gobeithio cael y cyfle i gystadlu am dlysau ar ddiwedd y tymor gyda chriw arbennig o fechgyn."

Fe allai ymadawiad Williams olygu bod y Scarlets mewn sefyllfa i arwyddo Leigh Halfpenny, sydd ar hyn o bryd yn chwarae i Toulon.