Cerddwr wedi marw wedi gwrthdrawiad yn Sir y Fflint

yr A5104 ger cyffordd Queensway ym Mrychdyn Image copyright Google
Image caption Cafodd y dyn ei daro ar yr A5104 ger cyffordd Queensway ym Mrychdyn

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir y Fflint nos Sadwrn.

Aed â cherddwr i ysbyty yng Nghaer wedi i fan Ford Transit ei daro ar ffordd yr A5104 ym Mrychdyn toc wedi 21:30.

Bu farw'r dyn yn ystod oriau mân fore Llun.

Mae plismyn yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y cerddwr neu'r fan cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Ychwanegodd y Sarjant Emlyn Hughes bod cydymdeimlad yr heddlu gyda'r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn a'u bod yn cael eu cefnogi gan swyddog cyswllt.