Dyn wedi'i ladd mewn gwrthdrawiad yng Nghaerffili

croespenmaen Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Stâd Ddiwydiannol Croespenmaen

Mae dyn 30 oed wedi ei ladd mewn gwrthdrawiad angheuol ger Trecelyn yng Nghaerffili.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r gwrthdrawiad ar Stâd Ddiwydiannol Croespenmaen am 7:00 fore ddydd Mawrth.

Dim ond un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad - car Peugeot 306 melyn - a bu farw'r dyn, oedd yn dod o Oakdale, yn y fan a'r lle.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn cynnig cefnogaeth i'w deulu, a'u bod yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar 101.