Llofruddiaeth Hen Golwyn: Swyddogion yn parhau i holi

David Kingsbury Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Bu farw David Kingsbury ar 5 Ionawr

Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi cael estyniad o 36 awr yn ychwanegol i holi tri dyn sydd wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yn Hen Golwyn.

Cafodd swyddogion eu galw tua 20:30 ar nos Iau 5 Ionawr i ardal Bryn Heulog yn y dref, ble cafwyd hyd i gorff David James Kingsbury, oedd yn 35 oed.

Mae dynes oedd wedi ei harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio ac yn apelio ar y cyhoedd am wybodaeth.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Arwyn Jones: "Hoffwn ddiolch i'r rhai hynny sydd wedi cynnig gwybodaeth yn barod sydd wedi bod o gymorth i'n hymchwiliad, ond fe fyddem yn dal i hoffi clywed gan unrhyw un oedd ym maes parcio Aldi ar Ffordd Abergele neu'n ardal Ffordd Wellington o Hen Golwyn rhwng 20:30 a 21:00 ar ddydd Iau 5 Ionawr."

"Rydym yn awyddus i siarad gydag unrhyw un welodd gar Vauxhall Corsa tri drws yn ardal Hen Golwyn ac yn apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar fws rhif 12 ar Ffordd Abergele yn ystod yr amser yma."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod V002232, neu drwy gysylltu mewn sgwrs dros y we ar http://www.north-wales.police.uk/contact/chat-support.aspx, neu ffonio Taclo'r Taclau ar 0800 555 111.