Cefnogaeth cwmnïau i gynllun morlyn Bae Abertawe

Lagwn Image copyright TLP

Mae dros 20 o gwmnïau diwydiannol wedi galw ar lywodraeth y DU i fwrw ymlaen gyda'r cynllun arfaethedig i adeiladu lagŵn llanw gwerth £1.3bn ym Mae Abertawe.

Mewn llythyr ym mhapur y Financial Times, maen nhw'n dweud y gallai'r cynllun fod yn hanfodol er mwyn ateb gofynion ynni'r DU.

Bydd Adolygiad Hendry - sydd wedi ei sefydlu i asesu pa mor hyfyw ydi lagwnau llanw - yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.

Dywed y cwmnïau fod y cynllun yn un o'r "cyfleoedd diwydiannol mwyaf mewn cenhedlaeth".

Mae'r cwmnïau sydd wedi arwyddo'r llythyr yn cynnwys cwmni dur a pheirianneg Sheffield Forgemasters, a changen Brydeinig cwmni General Electric - sydd yn cyflogi dros 42,000 o weithwyr mewn dros 250 o safleoedd yn y DU.

Dywed y llythyr: "Mae gennym ar flaenau ein bysedd sector newydd fydd yn creu diwydiant gwerth nifer o biliynau, darparu degau o filoedd o swyddi ar hyd y wlad a chreu cyswllt darparu nwyddau sylweddol yn lleol. Hyn i gyd cyn i ni ddechrau meddwl am y potensial anferth i allforio technoleg Brydeinig."

Image copyright TLP

Mae nifer o gefnogwyr y cynllun yn dawel hyderus y bydd Adolygiad Hendry yn edrych yn ffafriol ar lagwnau fel yr un sydd yn rhan o gynllun Bae Abertawe.

Ond mae cwestiynau wedi codi am y cynllun o ran ei faint, a chost y cymorthdal gan y llywodraeth am yr ynni fydd yn cael ei greu.

Dywed y cwmni tu ôl i'r fenter, Tidal Lagoon Power, eu bod yn "hyderus" y gallan nhw gytuno ar bris cymorthdal ymarferol am y trydan, gan wfftio pryderon am effaith amgylcheddol a pheirianyddol y cynllun.

Derbyniodd y cynllun ganiatâd cynllunio ym mis Mehefin 2015 gan yr Ysgrifennydd Ynni ar y pryd, Amber Rudd. Yna fe benderfynodd llywodraeth y DU gomisiynu'r cyn-weinidog ynni Charles Hendry i bwyso a mesur os oedd lagwnau'n ateb cost-effeithiol.

Roedd disgwyl i'r adolygiad gael ei gyhoeddi'r llynedd, ond nawr fe fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.

Dywed cefnogwyr y cynllun yn Abertawe y gallai ddarparu 11% o holl anghenion trydan Cymru.

Petai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, fe fyddai nifer o lagwnau eraill yn cael eu datblygu ar hyd arfordir Cymru, gan gynnwys yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn.