Abertawe dan-21 2-1 Wolves dan-21

Oliver McBurnie Image copyright @SwansOfficial/Trydar

Roedd 'na fuddugoliaeth i dîm dan-21 oed Abertawe yn erbyn tîm dan-21 oed Wolves yn nhlws y Checkatrade ar stadiwm y Liberty nos Fawrth (10 Ionawr).

Gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i un mae Abertawe bellach yn wyth olaf y gystadleuaeth.

Roedd hi'n gêm fywiog ac fe sgoriwyd dwy gôl Abertawe gan Oliver McBurnie. Roedd yna ganmoliaeth hefyd i berfformiad Dan James.