'Dim sicrwydd o gefnogaeth ACau i gam nesaf Mesur Cymru'

Mark Drakeford
Image caption Dim ond un o bryderon ACau oedd y trefniadau cyllid, yn ôl Mark Drakeford

Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes sicrwydd y bydd Aelodau Cynulliad yn cefnogi'r cam nesaf ar ddatganoli.

Bydd ACau yn penderfynu ddydd Mawrth nesaf os ydyn nhw am gefnogi cam nesaf Mesur Cymru sydd yn pasio drwy San Steffan.

Dywedodd Mark Drakeford bod cytundeb newydd ar gyllido wedi cael gwared o un rhwystr posib, ond y byddai'r pleidiau yn ystyried eu camau nesaf dros y penwythnos.

Llwyddodd llywodraeth y DU i osgoi colli pleidlais agos ar y Mesur yn Nhŷ'r Arglwyddi neithiwr.

Byddai'r Mesur yn caniatáu Llywodraeth Cymru i gael rhywfaint o bwerau ar reoli treth incwm, heb orfod galw refferendwm.

Byddai hefyd yn datganoli pwerau newydd i'r Cynulliad dros ei materion ei hun - megis etholiadau ac enw'r sefydliad - yn ogystal â mewn meysydd fel ynni a thrafnidiaeth.

Mae pwerau eraill hefyd wedi cael eu hychwanegu'n ddiweddar, gan gynnwys rhai yn ymwneud â thâl ac amodau athrawon, a'r gallu i ddeddfu ar wahardd taro plant.

Amser i feddwl

Ond mae'r Mesur hefyd wedi cael ei feirniadu gan grŵp trawsbleidiol o ACau, ac ym mis Hydref fe rybuddiodd pwyllgor cyfansoddiadol y Cynulliad y gallai'r ddeddf droi'r cloc yn ôl ar elfennau o ddatganoli.

Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor cyllid y Cynulliad fore ddydd Mercher, dywedodd Mr Drakeford fod cytundeb gyda'r Trysorlys cyn y Nadolig ar "fframwaith gyllido" wedi cael gwared ag un rhwystr i basio'r Mesur.

Ond fe rybuddiodd nad dyna oedd yr unig bryder oedd gan ACau, ac nad oedd sicrwydd eto pa ffordd fyddan nhw'n pleidleisio yr wythnos nesaf.

"Dwi ddim yn meddwl ei fod hi'n bendant hyd yn oed heddiw y bydd y Cynulliad yn pleidleisio dros Fesur Cymru, oedd dal yn fyw o flaen Tŷ'r Arglwyddi ddoe," meddai'r Gweinidog Cyllid.

"Felly dwi'n meddwl y bydd y pleidiau'n parhau i'w ystyried dros y penwythnos ac i mewn i'r wythnos nesaf."

Mae UKIP eisoes wedi dweud y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn y Mesur, gan ddweud nad ydyn nhw'n credu y dylai pwerau trethu gael eu datganoli i Gymru heb refferendwm.