"Euog o fod yn lwcus"

Dylan Llewelyn

Pnawn Sadwrn, 15 Ebrill 1989. Mae'n ddyddiad fydd yn aros yn fyw yn y cof i genedlaethau o gefnogwyr pêl-droed.

Dechreuodd y diwrnod yn llawn gobaith i filoedd o ddilynwyr Nottingham Forest a Lerpwl wrth iddyn nhw deithio i Sheffield ar gyfer rownd gyn-derfynol Cwpan yr FA. Ond ddaeth 96 ohonyn nhw ddim yn ôl o Hillsborough.

Cafodd dwsinau o gefnogwyr Lerpwl a oedd yn sefyll ar deras Leppings Lane eu gwasgu oherwydd bod yr awdurdodau wedi agor y giatiau gan olygu bod cannoedd yn ychwanegol o bobl wedi rhuthro i mewn i'r stadiwm.

Y cefnogwyr gafodd y bai. Roedden nhw'n feddw ac yn camymddwyn yn ôl yr heddlu ac roedd angen rheoli'r sefyllfa. Dyna, meddai nhw, pan wnaethon nhw agor y giatiau.

Ond y llynedd, ar ôl brwydr hirfaith, llwyddodd teuluoedd y cefnogwyr fu farw i gael cyfiawnder. Dyfarnodd cwest newydd i'r digwyddiad bod y cefnogwyr wedi eu lladd yn anghyfreithlon. Anwiredd oedd yr honiadau gwreiddiol.

Mae creithiau Hillsborough yn dal i frifo cefnogwyr Lerpwl, yn enwedig y teuluoedd a'r rhai fu'n dystion i ddigwyddiadau erchyll y pnawn hwnnw.

Yn eu plith roedd Dylan Llewelyn o Bwllheli, cefnogwyr pybur ers yn blentyn. Mewn rhaglen arbennig Hillsborough: Yr Hunllef Hir ar S4C, nos Fawrth 24 Ionawr, bydd Dylan yn edrych yn ôl ar y digwyddiadau a'r euogrwydd sy'n dal i'w boeni.

Mae'n rhannu ei deimladau gyda Cymru Fyw:


'Gwneud dim i helpu'

Does dim rhaid i chi fod yn euog i deimlo'n euog. Ond pan fo digon o bobl yn pwyntio bys, anodd yw peidio ysgwyddo'r cyfrifoldeb trwm.

Diolch i fethiannau syfrdanol yr awdurdodau cyn ac ar ôl y dydd, cynllwynio arswydol gychwynodd o fewn eiliadau ond a barodd am ddegawdau, heb sôn am rym nerthol y sefydliad Prydeinig, cafodd y bys ei bwyntio at y bobl anghywir. Gwadu popeth nath y sefydliad o'r cychwyn cyntaf. Y cefnogwyr lenwodd y bwlch bai.

Doeddwn i ddim yn euog o unrhywbeth y diwrnod hwnnw ac eithrio bod yn gefnogwr pêl-droed oedd yn dilyn ei dîm mewn gêm bwysig. Ond dwi'n dal i deimlo'n euog am be ddigwyddodd yn Hillsborough ar 15 Ebrill 1989. Nid yn euog o drosedd ond yn hytrach yn euog o fod yn lwcus. Ac yn euog o wneud dim i helpu'r rhai oedd mewn angen,

Doeddwn i ddim yn 'nabod unrhywun o'r rheiny fu farw yn Hillsborough, ond mae'r euogrwydd am barhau wrth sylweddoli mai eistedd yn ddiogel yn y North Stand oeddwn i. Union flwyddyn yn gynharach ro'n i'n sefyll yng nghanol gwasgfa annifyr ar Leppings Lane.

Yr un ddau dîm. Yr un lleoliad. Yr un trefniadau. Hap a damwain pur oedd hi fod swyddfa docynnau Lerpwl wedi penderfynu mod i'n gymwys i gael tocyn eistedd. Tasa fy rhif tocyn tymor wedi gorffen efo 6 yn lle 5...

Image caption Cofio'r 96 - Y gofeb yn Anfield i'r cefnogwyr gollodd eu bywydau yn Hillsborough ar 15 Ebrill 1989

Dihangfa i mi a'm teulu ond yn ddedfryd angeuol i gefnogwr arall ac yn boen chwarter canrif o anghyfiawnder i deuluoedd yn eu galar.

Hyd yn oed wedyn bum yn hynod, hynod ffodus. Fy mwriad y bore hwnnw oedd cyfnewid fy nhocyn eistedd drud am ddau docyn teras Leppings Lane rhatach, er mwyn i fy ffrind coleg o Sheffield fedru dod i'r gêm. Dyna oedd dealltwriaeth Mam, a dyna oedd dealltwriaeth fy nghyd-deithwyr o Bwllheli i Sheffield.

Tan i mi ei ffonio hi o siop drin gwallt tu allan i Hillsborough, roedd hi'n ofni'r gwaethaf. Mewn oes heb ffôn symudol, Facebook, Twitter ac ati, doedd neb yn gwybod pwy oedd yn ddiogel. A doedd neb yn gwybod y gwir.

Mae'r baich euogrwydd hwnnw yn gwmwl seicolegol drostaf hyd heddiw. Fedra'i ddim gweld na chlywed enw Hillsborough heb feddwl yn ôl i 1989. Fedra'i ddim gweld y rhif 96 unrhywle heb gael fy nghludo yn ôl i hunllef hir Hillsborough.

Mae'r fath deimladau yn gallu drysu dyn. Dwi'n teimlo'n euog am fod yn lwcus. Dwi'n teimlo'n euog am rewi yn fy unman. Dwi'n teimlo'n euog am deimlo'n isel tra mod i wedi bod mor ffodus mewn gwirionedd. Dwi'n teimlo'n euog am deimlo'n euog ar brydiau.

Image caption Mae'r geiriau uwchben y glwyd yn Anfield, cartref Lerpwl, wedi bod yn gysur i'r rhai fu'n ymgyrchu am gyfiawnder am gyfnod mor faith

Creithiau

Yr ateb syml iawn yw fod trychineb Hillsborough wedi cael effaith ar deuluoedd 96 o gefnogwyr fu farw'n anghyfreithlon. Does neb wedi diodde mwy na phobl fel Barry Devonside, gollodd ei fab 18 oed Christopher dan amgylchiadau tu hwnt o drist.

Braint boenus ac ysgytwol oedd gwrando ar ei dystiolaeth dirdynnol danlinellodd wir effaith Hillsborough ar deuluoedd cyffredin a chariadus.

Ond mae yna fwy o lawer o bobl wedi cael eu niweidio a'u creithio, boed yn gorfforol neu'n seicolegol gan ddigwyddiadau'r prynhawn hwnnw. Halen brwnt ar y briwiau fu'n celwydd a'r celu gwir dros y chwarter canrif wedyn.

Rydw i'n un o'r rheiny heb os, ond ges i fy synnu faint o bobl fu yn Hillsborough y pnawn hunllefus hwnnw sydd wedi dewis peidio, neu wedi methu trafod eu hatgofion yn agored neu'n breifat gyda'u teuluoedd na ffrindiau.

Roedd meddwl rhannu ei brofiadau yn ormod i un ffrind da. Roedd o'n teithio i bobman i wylio Lerpwl bryd hynny. Dwywaith fe gytunodd i gyfrannu, ond dwywaith bu'n rhaid iddo ohirio cyn dweud: "Sori mêt. Pendroni. Teimlo yn anghyfforddus rhannu."

Fedra'i ddim gweld bai arno o gwbl. Boed yn siarad yn agored neu cadw popeth o'r golwg, mae'r creithiau 'run mor ddwfn a niweidiol. Creithiau'r dydd a chreithiau'r cyhuddiadau di-sail. Mae o, fel fi yn un o'r trueniaid gafodd eu disgrifio fel a ganlyn gan yr Aelod Seneddol Andy Burnham wnaeth gymaint i ddadorchuddio'r gwir:

"The lost souls who went to a football match and ended up witnessing scenes akin to hell on earth; who drifted home from the scene of a disaster but got no professional help to cope, and who, just days after the tragedy, found themselves being blamed by police and press for what happened."

Haws siarad heb gwmwl cyhuddiadau, amheuaeth ac euogrwydd am wn i. Ond tra'n bod ni'n disgwyl cyhoeddiadau am gamau nesaf yr IPCC a'r CPS o ran erlyniadau posib yn erbyn unigolion a sefydliadau, mae'r hunllef hir yn parhau i lawer mwy na theuluoedd y 96.

Image caption Cyfiander a'r gwirionedd o'r diwedd

Hillsborough: Yr Hunllef Hir, S4C, nos Fawrth, 24 Ionawr, 21:30