Toriadau cynghorau yn effeithio ar waith safonau masnach

Safonau masnach

Mae swyddogion safonau masnach yn dweud bod toriadau i gynghorau yn effeithio ar eu gallu i amddiffyn y cyhoedd.

Mae gwaith ymchwil gan Newyddion 9 yn dangos bod dros ddau draean o gynghorau wedi lleihau nifer y swyddogion yn y bum mlynedd diwethaf, a'r un nifer hefyd wedi lleihau eu cyllideb yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ni wnaeth bob awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y swyddogion safonau masnach yn wynebu pwysau ariannol ond eu bod yn parhau i wneud gwaith pwysig.

Ymateb Cynghorau

  • Dywedodd Wrecsam a Chaerfyrddin fod y toriadau wedi cael effaith ar eu gallu i amddiffyn defnyddwyr;
  • Mae Sir Fynwy a Sir Ddinbych yn dweud eu bod wedi lleihau eu gwaith archwilio a ddim yn gallu bod mor weithgar;
  • Mae Powys ac Ynys Môn wedi newid ffyrdd o weithio, gan fod llai o adnoddau;
  • Mae Ceredigion, Castell Nedd Port Talbot a Chaerffili wedi gorfod blaenoriaethu eu gwaith;
  • Darparu'r gwasanaeth gyda'i gilydd mae Caerdydd, Pen-y-bont a Bro Morgannwg, a hefyd Blaenau Gwent a Thorfaen;
  • Dywedodd Cyngor Gwynedd fod ganddynt lai o adnoddau;
  • Mae Cyngor Merthyr yn cydnabod bod rheoli'r toriadau wedi bod yn sialens.
Image caption Roedd Mari Major yn derbyn llawer o alwadau niwsans cyn cael cymorth

Un sydd wedi gofyn am gymorth swyddogion safonau masnach yw Mari Major o Ben-y-bont, oedd yn derbyn galwadau niwsans.

Dywedodd: "O ni ddim yn moyn derbyn galwadau ffôn.

"Odd rhai amser o ni'n gadael y ffôn i ganu a ddim derbyn galwadau achos o chi ddim yn gwybod pwy oedd yna... A o chi ddim moyn ateb."

Fe roddodd y swyddogion declyn yn ei thŷ i leihau'r galwadau, ac mae hi'n credu bod hynny wedi bod o fudd: "I ni wedi cael dau neu dri mis ac mae e wedi profi mae'r peth hyn yn gallu gwella... Chi ddim yn cael y galwadau yna."

Mae cadeirydd Sefydliad Safonau Masnach Siartiedig yng Nghymru, Dave Riley yn dweud fod y toriadau yn golygu bod yna "sialensiau i'r gwasanaethau" ond eu bod "ymroddedig i amddiffyn y cyhoedd a busnesau."

Image caption Dywedodd Ellis Roberts bod gweithio ar draws ardal fawr yn gweithio, er bod llai o staff

Yn ôl Ellis Roberts o adran safonau masnach Pen-y-bont, Caerdydd a Bro Morgannwg, roedd rhaid newid y ffordd o weithio yn sgil y toriadau: "Da ni wedi gorfod gweithio yn fwy agos gyda'n gilydd.

"O ni yn gweithio i safonau masnach Pen-y-bont, ond nawr 'da ni wedi dod 'efo'n gilydd 'efo Caerdydd a Bro Morgannwg a gweithio'n agos iawn ar draws yr ardal i neud yn siwr bod pawb yn ddiogel."

Ychwanegodd: "Mae rhan fwyaf o'r gwaith yn dod o intillegence... Mae'r ffaith bod na dri cyngor wedi dod at ei gilydd yn neud y gwaith yna yn haws mewn ffordd oherwydd bod ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd ar draws ardal eitha mawr o Gymru i neud yn siwr fod pobl yn ddiogel.

"Mae hynny yn gweithio yn dda. Yn anffodus mae gynnon ni lai o bobl i neud y swyddi y dyddiau yma."

'Amddiffyn pobl fregus'

Wrth ymateb i'r gwaith ymchwil dywedodd Cyngor ar Bopeth Cymru bod cynnydd yn nifer y sgamiau yn golygu bod mwy o bobl yn cysylltu gyda nhw, a hynny wedyn rhoi mwy o bwysau ar swyddogion safonau masnach i ymchwilio i gwmnïau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod safonau masnach yn wynebu pwysau ariannol.

Ond maent yn dweud eu bod yn parhau i wneud gwaith pwysig ac yn "amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau rhag twyll ag erledigaeth" a bod "busnesau sydd yn dibynnu arnynt i gael cyngor technegol cyfreithiol" dal i allu cael cefnogaeth.