Marwolaeth Hen Golwyn: Cyhuddo dyn o lofruddio

David James Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Cafodd corff David Kingsbury ei ganfod ar 5 Ionawr

Mae dyn 30 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn arall 35 oed yn Hen Golwyn.

Cafodd corff David James Kingsbury ei ganfod nos Iau 5 Ionawr yn ardal Bryn Heulog yn y dref.

Mae Dean Joseph Cody yn dod o Hen Golwyn ac mae dau ddyn arall, Colin David Lyness, 30 oed, a Thomas Charles Revatto, 50 oed wedi eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Mae'r ddau ddyn yma hefyd yn dod o'r ardal leol.

Bydd y tri yn ymddangos yn llys ynadon Llandudno fore Iau.